Gwlad yw'r nef o
swn gofidiau,
Gwlad o ryfeddodau'n llawn,
Gwlad lle mae fy hen gyfeillion
Heddyw'n gwledda'n hyfryd iawn;
Gwlad o gyrhaedd
llid gelynion,
Gwlad a chalon pawb
mewn hwyl,
Gwlad mae f'enaid am fod ynddi
Gyda'r Iesu'n cadw gwyl.
Yno caf fi ddechreu hanes,
Hanes o lawenydd pur,
Fyth na chlywir diwedd arno
Yn y baradwysaidd dir;
Bob munudyn bydd yn dechreu
Seinio'i maes heb dewi son,
Ddoniau maith, anfeidrol hyfryd,
Croeshoeliedig addfwyn Oen.
Ffown i'r wlad
odidog odiaeth,
Mawl am obaith myn'd i hon;
Ffarwel bellach bob eilunod,
Pleser pechod oll o'r bron;
Oll diangwn tua'r noddfa
Gafwyd trwy'r Messia mâd;
O am gyrhaedd yn ddihangol
Hardd drigfanau'r
nefol wlad.
William Williams 1717-91
Tôn [8787D]: Lugano (Catholic Hymn Tunes 1849) gwelir: Gwlad yw'r nefoedd heb gymmysgedd Minau bryfyn gwael o'r ddaear 'Rwy'n dy garu addfwyn Iesu 'Rwy'n dy garu ddweda'i chwaneg? |
Heaven is a land away from
the sound of griefs,
A land full of wonders,
A land where my old friends are
Today feasting very delightfully;
A land out of the reach of
the wrath of enemies,
A land with everyone's
heart in good spirits,
A land my soul wants to be in
With Jesus keeping festival.
There I may get to begin my story,
A story of pure joy,
The end of which is never to be heard
In the paradisiacal land;
Every minute shall be beginning
Sounding out without falling silent,
Vast, immeasurably delightful gifts,
Of the dear, crucified Lamb.
Let us flee to the land of
exquisite superiority,
Praise for the hope of going to this;
Farewell henceforth all idols,
Absolutely all the pleasure of sin;
Let us all escape towards the refuge
Got through the worthy Messiah;
O to reach safely
The beautiful dwellings of
the heavenly land.
tr. 2019 Richard B Gillion
|
|